YMGYSYLLTU RHYNGWLADOL GWEINIDOGOL
MAWRTH 2024
|
YMWELIADAU MEWNOL |
||
09 Mawrth
09 Mawrth
13 Mawrth
15 Mawrth
16 Mawrth
|
Ymweliad â Chymru gan Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw Cynhaliodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog gydag Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw pan ddaeth i Gymru ar gyfer digwyddiad cau Cymru yn Ffrainc. Yn ystod y cyfarfod buont yn trafod cysylltiadau Cymru/Llydaw ac yn llofnodi’r Cynllun Gweithredu i gefnogi gweithredu'r Memorandwm Dealltwriaeth a lofnodwyd y llynedd.
Ymweliad â Chymru gan y Cynghorydd Mulot o Gyngor Rhanbarthol Hauts-de-France Cynhaliodd y Prif Weinidog gyfarfod dwyochrog gyda'r Cynghorydd Mulot o Gyngor Rhanbarthol Hauts-de-France pan ddaeth i Gymru ar gyfer digwyddiad cloi Cymru yn Ffrainc. Yn ystod y cyfarfod buont yn trafod symudedd ieuenctid ac ynni gwyrdd, yn enwedig o ran defnyddio hydrogen.
Ymweliad â Chymru gan Weinidog Addysg Iwerddon Cafodd y Prif Weinidog gyfarfod anffurfiol gyda Gweinidog Addysg Iwerddon yn ystod ei hymweliad â Chymru i ddathlu Dydd Sant Padrig. Cyffyrddodd y cyfarfod byr ar feysydd cydweithredu a gwmpesir yn natganiad Cymru Iwerddon.
Ymweliad â Chymru gan Lysgennad Denmarc i'r DU Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd â Llysgennad Denmarc i drafod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chynaliadwyedd, masnach a buddsoddiad.
Ymweliad â Chymru gan Lysgennad yr Eidal i'r DU Cyfarfu'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd â Llysgennad yr Eidal a dirprwyaeth busnes i ddangos eu bod yn cefnogi'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r Eidal ac i gryfhau cysylltiadau â rhanddeiliaid o'r Eidal.
|
||
|
YMWELIADAU ALLANOL |
|
|
|
Dim
|
|
|